Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Gwaith dilynol ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru | Follow-up to Children, Young People and Education Committee’s Inquiry into Adoption Services in Wales

 

AS 19

Ymateb gan : Darpar Riant

Response from : Prospective Parent

Cwestiwn cyffredinol

Beth yw eich barn ar y cynnydd a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cymru o ran y 16 o argymhellion a’r 25 o gamau gweithredu manwl a amlinellir ar dudalennau 5-11 o Adroddiad y Pwyllgor?

Nid ydym mewn sefyllfa i ymateb.  Rydym yn ddarpar rieni mabwysiadu sydd wedi cael ein paru dwywaith, y tro cyntaf a dwy chwaer fach a’r eildro gyda brawn a chwaer fach.  Bu’r ddau linc yn aflwyddiannus.  Er nad ydym eto yn rhieni sydd wedi mabwysiadu hoffem rannu’r profiadau yr ydym wedi eu cael yn ystod y cyfnod asesu, hyfforddi a pharu.

Cwestiwn 1

Beth yw eich barn ar y broses o recriwtio, asesu a pharatoi rhieni sy’n mabwysiadu?

Hoffem ganmol y broses hon.  Roedd yn broses gymharol gyflym a llyfn. Cafodd ein cais cychwynnol i Wasanaeth Mabwysiadu xxxxx xxxxx ei ddelio ag o yn gyflym.  Yna cawsom fynychu hyfforddiant 4 niwrnod (dau ddiwrnod un wythnos a dau ddiwrnod arall yr wythnos ganlynol).  Roedd cynnwys y cwrs wedi ei ddyfeisio a’i baratoi’n drwyadl iawn gyda Gweithwraig Gymdeithasol brofiadol yn ei arwain.  Cawsom hefyd fynychu cyfres o hyfforddiant ychwanegol ac fe gynhaliwyd diwrnod o hyfforddiant arbennig i aelodau o’n teuluoedd.

 

Daeth rhiant mabwysiadu sengl i’n cwrdd am oddeutu 30-45munud yn ystod un o’r diwrnodau hyfforddiant cychwynnol.  Buasem wedi hoffi gallu cyfarfod mwy o rieni mabwysiadu, efallai mewn awyrgylch mwy anffurfiol?  Rydym wedi cwrdd â sawl cwpwl a / neu unigolyn yn yr un sefyllfa a ni yn ystod y sesiynau hyfforddi ond prin yw’r amser yn ystod y cyrsiau hyn i gymdeithasu, trafod a rhannu profiadau. Buasai grŵp cefnogi yn ddefnyddiol.

 

Cawsom Weithwraig Gymdeithasol i’n hasesu yn fuan wedi’r hyfforddiant. Roedd yn weithwraig gwrtais a dibynadwy ac yn hawdd gweithio â hi.  Roedd yn ymweld â ni yn ein cartref yn rheolaidd gan weithio â ni i greu PAR.  Roedd yn gosod tasgau / gwaith cartref i ni ac roedd hyn i gyd yn ein helpu i baratoi tug at y cyfarfod panel.  Cawsom hefyd gyfarfod ag uwch weithwraig gymdeithasol ar un achlysur yn ogystal i gael persbectif gwahanol, a hithau i’n hasesu tua chanol cyfnod yr asesiad.

 

Er mai canmoliaeth sydd gennym ar y cyfan i’r broses asesu a hyfforddi, ‘roeddem yn teimlo ar adegau mai delwedd ‘ddu’ iawn oedd yn cael ei gyfleu o fabwysiadu.  Ar un llaw rydym yn deall mai pwnc anodd a sensitif iawn yw trafod sefyllfaoedd anodd a trawmatig y mae’r plant wedi ei brofi.  Ond ar y llaw arall prin oedd y cyfleoedd i wrando a dathlu llwyddiant.  Rydym yn derbyn bod angen i’r broses amlinellu’n gryf y potential am ymddygiad anodd ayb y gall y plant arddangos.  Er hyn pwysig yw cael cydbwysedd o dda a drwg gan gyfleu gobaith am welliant ym mywydau pawb dan sylw.

 

Cawsom wybodaeth am Wasanaeth Mabwysiadu xxxxx xxxxx ar y we ac rydym yn sylwi eu bod yn cynnal digwyddiadau hyrwyddo yn rheolaidd ac yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd megis Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol ym mis Hydref, mae hyn i’w ganmol.

 

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu xxxxx xxxxx wedi talu i ni fod yn aelodau o Adoption UK, mae hyn hefyd wedi bod o gymorth ac yn ddefnyddiol iawn.  Mae’r wefan a’r cylchlythyr yn llawn gwybodaeth gyfredol a defnyddiol.

Sut y gellir gwella hyn?

Wedi ei gynnwys uchod eisoe. Ond yn gryno…

 

·         Mwy o gyfleoedd i gwrdd â thrafod a rhieni sydd wedi mabwysiadu

·         Cyfleu delwedd gytbwys o fabwysiadu – yr heriau a all godi a’r straeon o lwyddiant

 

Cwestiwn 2

Pa brofiad sydd gennych o’r broses baru a chefnogaeth ar gyfer y cyfnod pontio, a beth yw eich barn ar y profiad hwn?

Yn anffodus profiadau hynod negyddol yr ydym wedi eu cael hyd yma.  Rydym wedi cael ein paru ddwywaith, y tro cyntaf gyda dwy chwaer fach a’r eildro gyda brawd a chwaer fach - y ddau bar o dan ofalaeth Cyngor xxxxx.

 

Gorfu i ni benderfynu peidio â pharhau a’r pariad cyntaf oherwydd diffyg gwybodaeth gywir ac ymddygiad annibynadwy gweithiwr cymdeithasol y ddwy chwaer. Roedd ansawdd adroddiadau CARA’s y ddwy yn wan ofnadwy roedd yn amlwg fod y ddau adroddiad bron yn union yr un peth, gan wneud llawer o ddefnydd o ‘copy & paste’.  Mae hyn yn annerbyniol i ni fel darpar rieni mabwysiadu a bwysicaf oll gan ei fod yn rhoi’r plant mewn sefyllfa wan o ran cael eu mabwysiadu.  Rydym yn deall gall fod llawer o wybodaeth ar goll o hanesion plant sy’n cael eu mabwysiadu, ond yn yr adroddiadau yma roedd bylchau heb eglurhad, buasai wedi bod yn ddefnyddiol iawn petai’n nodi ‘gwybodaeth ddim ar gael’ mewn adrannau ble nad oedd ar gael; yn lle ein bod yn gorfod dyfalu os mai diffyg cofnodi ar ran y gweithiwr oedd yr achos yntau bod y wybodaeth wir ar goll.

 

Trefnwyd dau gyfarfod ble yr oedd y gweithiwr i fod i ddod i’n cyfarfod yn ein cartref, nath o ddim troi fyny.  Gan nad oeddem yn gallu ymddiried yn y gweithiwr penderfynwyd tynnu ein diddordeb yn ôl.  Achosodd hyn deimladau o euogrwydd o’n hochr ni gan ein bod wedi eu ‘gwrthod;’ ond rydym bellach wedi dod i dderbyn nad oedd y berthynas rhyngom ni a'r gweithiwr am weithio ac nad oedd yn ‘match’ yr un cywir.

 

Yr ail bariad oedd gyda brawd a hanner chwaer, eto o xxxxx.  Roeddem wedi darllen eu hadroddiadau CARA, wedi mynychu cyfresi o gyfarfodydd e.e. gyda’u meddyg, gyda’r gofalwyr maeth ayb.  Roeddem wedi gwneud gwaith ymchwil i gyflyrau meddygol, wedi darllen i fyny am bob math o sefyllfaoedd a chyflyrau megis PTSD ymhlith plant, wedi sgwennu dogfen ynglŷn â pham mai ni oedd y rhieni mwyaf addas ar gyfer y ddau fach.  Cymeradwywyd i ni fod yn rhieni addas ar eu cyfer yn y Cyfarfod Cyfatebu.  Diwrnodau yn ddiweddarach clywsom, pythefnos yn unig cyn i ni fynd i banel, bod y gofalwyr maeth wedi penderfynu yr hoffent fabwysiadu’r ddau fach.  Roedd hyn yn ddigwyddiad echrydus o boenus; colli dau o blant bach a ninnau mor agos tuag at ddiwedd y broses.  Roeddem yn profi bob math o deimladau negyddol a phoenus tu hwnt.  Roeddem yn teimlo fel ein bod wedi cael ein defnyddio a’n bradychu.  Roeddem wedi amau bod y gofalwyr maeth yn anghyfforddus gyda’r sefyllfa arfaethedig ac wedi holi os oedd modd iddynt fabwysiadu’r ddau fach, ond fe gawsom ein hargyhoeddi y buasai hyn yn amhosib gan fod gan y gofalwyr maeth berthynas a chysylltiadau rhy agos gyda’r teulu genedigol.  Sylwyd o adroddiadau’r gofalwyr maeth eu bod yn ceisio difrodi’r broses gan fod yn or negyddol am ymddygiad y plant ac roedd hyn hefyd yn boendod.  Rydym yn poeni am y plantos gan nad yw’r gofalwyr maeth yn gymwys i fabwysiadu eto, bydd angen iddynt fynd drwy’r holl broses o ddod yn rhieni mabwysiadu a beth os na wnaiff hyn weithio, beth fydd y dyfodol i’r plant?

 

Daeth ein gweithwraig gymdeithasol a’i rheolwr llinell i’n ty gyda’r nos i rannu’r newyddion drwg gyda ni.  Gallwn ond canmol cefnogaeth y ddwy. Stori gwahanol sydd i ymddygiad swyddogion Sir xxxxx.  Ni chawsom unrhyw gyswllt ganddynt. Yn sgil hyn cyflwynwyd cais am ryddid gwybodaeth a chyflwyno cwyn swyddogol yn eu herbyn.  Rydym dal i ddisgwyl am y wybodaeth ond wedi cael cyfarfod a llythyr ynghylch y cwyn, sy’n cydnabod gwendidau o’u rhan nhw a sut maent am geisio atal hyn rhag digwydd eto.  Rydym wedi penderfynu peidio a derbyn match arall o Sir xxxxx.

 

Rydym hefyd yn trafod y mater gyda xxxxx – ein aelod seneddol lleol.

Sut y gellir gwella hyn?

·         Dangos parch a sensitifrwydd i ddarpar rieni mabwysiadu

·         Asesu risg yn fwy effeithiol - oes perygl i’r pariad dorri i lawr

·         Bod yn hollol sicr bod y plant ar gael i’w mabwysiadu cyn eu cynnig i ddarpar rieni mabwysiadu

·         Rhoi cynnig a chyfle penodol i ofalwyr maeth gynnig eu hunain fel darpar rieni mabwysiadu sydd yn eu gofalaeth.

·         Gwella ansawdd gwybodaeth adroddiadau CARA

·         Ymddwyn yn broffesiynol gan droi i fyny i gyfarfodydd a sicrhau ansawdd dda i adroddiadau a chyfathrebu

·         Cysylltu â chyfathrebu’n uniongyrchol i rannu newyddion drwg

Cwestiwn 3

A ydych yn credu bod digon o wybodaeth a chymorth i blant a phobl ifanc, gan gynnwys mynediad at waith o safon ynghylch cofnodi profiadau bywyd?

Amherthnasol

Sut y gellir gwella hyn?

Amherthnasol

Cwestiwn 4

Pa gymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd (gan gynnwys gan y gwasanaethau cymdeithasol, addysg, iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl) sydd ar gael ar ôl mabwysiadu a beth arall gellid ei wneud yn y maes hwn?

Amherthnasol

Sut y gellir gwella hyn?

Amherthnasol

Cwestiwn 5

A oes unrhyw faterion eraill yr hoffech dynnu sylw’r Pwyllgor atynt?

Mae angen cynnig cefnogaeth i ddarpar rieni mabwysiadu pan maeth pethau’n mynd o chwith.  Mae darpar rieni mabwysiadu mewn sefyllfa fregus o fod yn rhoi eu dyfodol yn nwylo pobl broffesiynol.  Mae’n allweddol bod modd iddynt ymddiried ynddynt a bod ganddynt hyder yn eu ymddigiad proffesiynol.  Rydym wedi rhannu popeth am ein bywydau personol gyda’r awdurodau yn ystod y broses asesu ond yn anffodus nid ydym yn credu fod hyn yn wir am y gweithwyr proffesiynol, rydym ni’ hollol agored a thryloyw ond nid yw’r un peth yn cael ei arddangos gan y staff.  Mae’n allweddol ein bod yn derbyn gwybodaeth gywir a bod y swyddogion yn cyfathrebu’n glir a chyson gyda ni.  Gall profiadau fel y rhai yr ydym wedi eu cael fod yn ormod i rai a all olygu eu bod yn tynnu allan o’r broses yn llwyr.

 

Rydym yn deall fod mabwysiadu yn faes dyrus a chymleth ac wrth gwrs mai’r plant sy’n ganolig i bob penderfyniad.  Ond credwn mae darpar rieni mabwysiadu a’r plant sy’n allweddol i sefydlu teuluoedd newydd, nid yw un yn da i ddim heb y llall.

Mae croeso i chi gysylltu yn ôl os yr hoffech fwy o fanylion neu drafod ymhellach.